Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar y golofn hon, i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…
Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen
Dorothy Miles: her life and poems (The British Deaf History Society). Ganed Dorothy Miles yn Gwernaffield [pentref rhyw dair milltir o’r Wyddgrug yn Sir y Fflint] yn 1931. Roedd hi’n fyddar a chafodd ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Gallaudet yn Washintgon, yr Unol Daleithiau. Digwyddais faglu ar ei thraws wrth archwilio’r gynghanedd a beirdd byddar – Cymraes sy’n cael ei chydnabod fel sylfaenydd barddoniaeth Iaith Arwyddion ledled y byd. Doeddwn i ddim yn gwybod amdani, ac mae hynny oherwydd ablaeth neu anablaeth, ac yn benodol clywediaeth (audism), sef rhagfarn tuag at bobol fyddar. Roedd hi hefyd yn berson LGBTQ+ ac mi gyflawnodd hunanladdiad. Mae hi’n hynod o ddiddorol ac rwy’n paratoi pwt amdani i’r Bywgraffiadur Cymreig. Dw i hefyd yn gobeithio cyhoeddi llyfr plant hefo celf amdani.
Y llyfr neidiodd fy mywyd
Waardenburg Syndrome, Alice Kahn. Teg yw dweud fod y cyflwr yma (math 1) wedi siapio fy mywyd. Mae’r cyflwr sydd gen i yn golygu fy mod yn colli pigment (yn y croen, y gwallt, y llygaid a’r cochlea) yn llawer iawn mwy na phobol arferol, ac mae fy nghlyw wedi cilio. Felly, dw i wedi mynd drwy drawsffurfiad dramatig dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn fwy heriol oedd effeithiau ‘dystopia canthorum’, ‘flat zygoma’, a ‘synophrys’, ynghyd â’r ffaith fy mod i o’r blaen efo gwallt tywyll a llygaid brown, a chroen gwahanol i’r ffordd mae’n edrych rŵan. Trwy ddarllen y llyfr yma, mi ddes i ddeall y llwythi o brofiadau heriol yr oeddwn wedi eu profi ar ddiwedd fy arddegau a dechrau fy ugeiniau. Dw i wedi bod yn ceisio sgrifennu amdanyn nhw, ac wedi cael fy marnu’n hallt gan rai. Ond, os yw rhywun yn sgrechain abiws hiliol arnoch ar draws stryd dywyll yn Rhosddu, neu’n eich taro chi yn y wyneb yn ganol Lerpwl, ac mae’r meddyg yn ymateb i’ch ateb eich bod o Gymru gan ofyn ‘beth am eich rhieni felly?’, ac yna ‘dim cysylltiad Dwyrain Canol felly?’ – wel, mae yn… heriol. Dw i wedi treulio llawer o amser yn ateb y gorchymyn ‘Adnabod dy hun’, ac mae’n helpu i mi fyw yn yr hen fyd yma.
Y llyfr a ddylanwadodd fwyaf arna i
Y Gwin gan I D Hooson oedd y gyfrol gyntaf o gerddi y teimlais fy mod yn ei deall. Roedd pob un o fy ngherddi cynnar yn seiliedig ar y math yma o delynegion. Yna, tua 2006, mi wnaeth Menna Elfyn roi’r gerdd ‘The Wife of Bafa’ gan Patience Agbabi i ni ar gwrs yn Nhŷ Newydd, ac fe’m synnwyd achos bod yr arddull mor wahanol. Prynais Transformatrix a newidiodd fy steil i o’r delyneg draddodiadol i’r ‘monolog ddramatig’. Mi brynodd fy nhad Dim Angen Creu Teledu Yma (Aled Lewis Evans) i mi, a gwelais ei fod yntau’n sgrifennu ar yr un ffurf, ac am fywyd yn Wrecsam! Yna darllenais erthygl yn Golwg am y bardd Indiaidd-Cymraeg Tishani Doshi a phrynais Countries of the Body. Heddiw, rhyw gyfuniad o steil narrative lyrical Tishani Doshi, a’r monolog ddramatig yw fy hoff ffordd i o farddoni.
Y llyfr sy’n hel llwch
A Game of Thrones (George R R Martin). Dw i’n bwriadu darllen yr holl gyfres, ‘A Song of Ice and Fire’. Yn fy mhen mae’n un llyfr mawr epig lledr, fel Beibl teuluol, a dw i ond wedi prynu’r llyfr cyntaf ar Kindle. Mi fydd rhaid i mi gynilo ar gyfer y llyfrau copi caled. Mae’r gyfres teledu Game of Thrones, a nawr House of the Dragon, wedi bod yn bwerus iawn i mi yn bersonol, wrth i mi ddod i dderbyn, neu o leiaf casáu yn llai, fy ngwedd dibigmentiedig, gwelw. Mae gweld lot o bobol eraill [yn y cyfresi teledu] hefo gwallt fel f’un i, a rhai ohonynt yn cael eu hystyried yn ‘brydferth’, neu o leiaf ddim yn hyll, wedi ei gwneud hi’n haws i mi sbïo yn y drych bob bore. Hoffwn nawr ddarllen pam eu bod nhw’n edrych fel hyn yn y stori.
Llyfr yr hoffwn fod wedi’i ddarllen, ond heb wneud
Mae pentwr mawr yn hel llwch ger fy ngwely. Efallai mai Meddwl y Gynghanedd, R M Jones, ac un neu ddau o lyfrau eraill am y gynghanedd, sy’n f’ypsetio i fwyaf. Roeddwn i yn breuddwydio am gynganeddu cyn i fy nghlyw gilio, ond do’n i ddim wedi ystyried bod fy anghenion arbennig addysgol (SEN) i yn cael fwy o effaith na’r clyw mewn gwirionedd: mae’n anodd i mi ddysgu patrymau a rheolau.
Y llyfr dw i’n troi ato mewn cyfyng gyngor
The Left Bank & Other Stories. Dw i wrth fy modd hefo Jean Rhys, ac yn y casgliad yma mae hi’n rhannu cyfrinachau efo ni am sut i fyw bywyd ar yr ymylon a hefyd gweld y bendithion. Fues i yn ddigartref ac yn byw mewn bed-sits ar hyd a lled dinas Wrecsam ddiwedd y 1990au, felly mi fedraf uniaethu â naws y casgliad. Mae ail-ddarllen un neu ddwy o’r storïau yma rywsut yn gwneud i fi deimlo’n ocê.
Y llyfr sydd wastad yn codi gwên
Fues i draw yng Ngŵyl Gerallt yn ddiweddar, a phrynu copi o gyfrol newydd Elinor Wyn Reynolds, Anwyddoldeb, ar ôl gwrando arni’n siarad. Bûm yn ei darllen ddoe yn y siop ’sglods wrth aros am fy shish kebab ac, yn wir, dw i heb chwerthin fel yna ers i mi ddarllen Hitchhiker’s Guide to the Galaxy tra’r oeddwn i yn y brifysgol.
Y llyfr byddwn i’n ei roi yn anrheg
Signs of hope: Deafhearing family life, Donna West. Dyma lyfr sy’n cyfuno ymchwil ethnograffeg am deuluoedd Byddar-clywed [sy’n cynnwys pobol clywed a phobol f/Fyddar*] gyda barddoniaeth, fel ffordd o drawsysgrifo Iaith Arwyddion, a hefyd ymchwil drylwyr am ddiwylliant, ieithoedd, a hawliau pobol f/Fyddar ledled y byd, trwy gyfnodau gwahanol. Mae’n gyflwyniad perffaith i’r pwnc, ac yn borth i’r maes a llyfrau niferus eraill, fel Everyone Here Spoke Sign Language: Hereditary Deafness on Martha’s Vineyard; Understanding Deaf Culture: In Search of Deafhood; a Deaf Around the World: The Impact of Language. Wrth ddarllen llyfrau fel yma, dw i’n teimlo fy mod i a fy nheulu yn rhan o rywbeth ehangach, rhywbeth cadarnhaol, yn hytrach na bod ‘rhywbeth yn bod’ efo ni. Dw i newydd fod yn paratoi pytiau i wefan yr Esboniadur am ‘ablaeth/anablaeth’, ‘clywediaeth’, ‘astudiaethau b/Byddar’, ‘anabledd’, ‘damcaniaeth anabledd beirniadol’, a ‘ffeministiaeth anabledd’, ac mi roedd llyfr Donna yn un y gwnes i droi ato sawl gwaith. Mae’n gyfeirlyfr defnyddiol iawn.
Fy mhleser (darllen) euog
Roeddwn yn cael confylsiynau gwres fel baban, ac yn cael y cyffur epilim i’w rheoli, ond cefais relapse lle y dihunais yn yr ysbyty. Roeddwn mor fach yn yr ysgol gynradd, nes bod pawb yn fy ngalw i’n ‘Sara-bach’, hyd yn oed y prifathro. Roeddwn yn annatblygedig. Hyn, mae’n debyg, sydd y tu ôl i fy anawsterau dysgu. Rwyf wrth fy modd yn pori trwy lyfrau ac erthyglau am hyn ac unrhyw beth sydd yn ymwneud â chonfylsiynau a/neu nam ar yr ymennydd. Dw i wrthi’n paratoi cyfrol o gerddi am fy mhrofiadau i, ac felly mae hyn yn waith darllen perthnasol. Fedra i ddim cyfiawnhau’r oriau niferus dw i’n eu treulio ar hyn, mewn gwirionedd – mi ddylwn fod yn glanhau’r tŷ neu rywbeth! Mi wnaeth Emilia Clarke sgrifennu chwip o erthygl bersonol iawn am ei phrofiad o aniwrysmau ymennydd. Teimlais ryddhad yn darllen amdani hi’n dweud ei bod wedi erfyn ar y meddygon i’w lladd ar un adeg, oherwydd ei salwch a’i digalondid. Teimlais yn euog am hynny ond efallai bod modd troi hyn yn rhywbeth positif, fel wnaeth hi efo’i helusen ‘SameYou’. Efallai y byddai fy nghyfrol i yn torri’r tabŵ ar y pwnc heriol o gonfylsiynau a niwro-amrywiaeth, a’r effaith hirdymor ar yrfa a bywyd y rheiny sy’n eu goroesi.
Y llyfr yr hoffwn gael fy nghofio amdano
Dw i newydd anfon cyfrol o gerddi o dan y teitl ‘A Goareig Patchwork Quilt’ at gyhoeddwyr. Mae yna gerddi am y berthynas rhwng yr iaith Gymraeg a’r Saesneg, a rhwng iaith dafodieithol ac iaith safonol. (Mae Iaith Arwyddion a’r diwylliant Byddar yn cael ei chynnwys hefyd er bod trwch y cerddi am hyn wedi eu cynnwys yn fy nghasgliad arall, ‘Inter Mundos’, sydd yn nwylo gwasg o’r enw Gallaudet.) Dw i’n trafod hynafiaid fy chwaer-yng-nghyfraith o Benaulim yn Goa, Mengo yn Uganda, a Mombasa yn Kenya, a’u diarddel dan orthrwm Idi Amin. Mae hunaniaeth fy nithoedd yn un cymysg iawn ac maen nhw wedi cael profiadau heriol ar sail hyn. Hoffwn feddwl y bydd y gyfrol yma o gerddi o fudd iddyn nhw, ac y bydd modd ei dangos hi efallai i’w plant a’u hwyrion nhw, gan esbonio pwy oedd Dodo, ‘y dywysoges arian’.
Dr Sara Louise Wheeler
Un o Wrecsam sy’n sgrifennu colofn, ‘O’r Gororau’, i gylchgrawn Barddas. Mi enillodd wobr ‘Geiriau Creadigol 2022’ Disability Arts Cymru gyda’r gerdd ‘Ablaeth Rhemp y Crachach’. Mae ei phrojectau dwyieithog diweddar wedi cynnwys Y Llyfr Llesiant gyda phlant lleol a llyfrgelloedd Wrecsam. Mae hi yn un o feirniaid barddoniaeth Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023. Mi fydd yn cyhoeddi ei barddoniaeth ar ei gwefan www.gwasgygororau.wordpress.com
Nodyn: f/Fyddar* – Pan mae phriflythyren ar y gair ‘byddar’ mae’n dynodi pobol fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion