Y funud yma, mae’n ymddangos y dylai pawb fod yn paratoi am lywodraeth Lafur.

Er bod Liz Truss a Kwasi Kwarteng wedi trio dadwneud rhyw ychydig o’r llanast wnaethon nhw tros eu cyllideb fach, mae’n bosib iawn ei bod eisoes yn rhy hwyr.

Union 30 mlynedd yn ôl, mi ddigwyddodd rhywbeth tebyg. Ar 16 Medi, 1992, roedd rhaid i lywodraeth newydd John Major adael trefn ariannol Ewropeaidd, yr ERM, ac mi fuodd yna danchwa yng ngwerth y bunt a ffrwydrad mewn cyfraddau llog.