Cafodd Keir Starmer wythnos dda’r wythnos ddiwethaf. Gyda’r polau wedi gogwyddo’n gryf iawn tua’i blaid, ac araith lwyddiannus ganddo yn ei chynhadledd, mae’r rhod yn troi. Nid oes gwadu bod rhan fawr o hyn oherwydd perfformiad gwirioneddol drychinebus llywodraeth ifanc Liz Truss yn ei mis cyntaf, a’r anniddigrwydd cynyddol, amrwd sy’n lledu yn ei sgîl.