Roedd heddiw’n un o’r penwythnosau gorau erioed, gwell hyd yn oed na fy mhenwythnos pen-blwydd!

Roeddwn i’n meddwl i ddechrau ’mod i’n mynd i weld Cymru’n chwarae pêl-droed, achos roedd Dad wedi gwisgo ei grys-t ‘Yma o Hyd’ ac roedd e wedi rhoi baner mawr Cymru ar fygi Macsen. Ond pan wnes i ofyn iddo, fe ddywedodd Dad ein bod ni’n mynd i rywbeth o’r enw GORYMDAITH, ac ro’n i braidd yn drist wedyn achos mae hwnna’n air boring.