Iawn, dwi’n gwybod ’mod i’n dueddol o sôn amdani tua’r adeg hon o’r flwyddyn, bob blwyddyn…

Ond gyda’r gyfres ddiweddaraf newydd gychwyn, dyma droi at Strictly Come Dancing unwaith eto.

Er bod y newid i ddiwrnod darlledu rhaglen gyntaf y gyfres bresennol, yn dilyn marwolaeth y frenhines, wedi arwain at gwymp bychan yn nifer y rhai a wyliodd yn fyw, mae’n dal yn un o raglenni mwyaf poblogaidd y BBC, ac ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd i’w gwylio ar alw ar iPlayer.