Wel – fe ddaeth yr Hydref – a dyma ni’n crynu mewn ofn wrth feddwl am y biliau nwy anferthol y byddwn yn eu derbyn cyn bo hir.

Ond cyn i chi losgi eich copïau o Golwg er mwyn cadw’n gynnes, gallaf rannu â chi ddogfen bolisi cyfrinachol gan ein Llywodraeth ddisglair. Fel y gwelwch, mae ar fin cyhoeddi amrywiaeth o syniadau arloesol er mwyn ein cadw’n gynnes dros y gaeaf:

At sylw: Y Gweinidog Ynni