Rydw i’n cofio’r tro cyntaf i mi glywed yr enw Erling Braut Haaland. Roedd o wedi sgorio naw gôl mewn un gêm yn erbyn Honduras yng Nghwpan y Byd dan 20 yn 2019. Mi wnes i wylio’r goliau a dwi’n cofio meddwl mai ei faint mawr ymysg hogiau llai oedd y prif reswm am ei lwyddiant yr adeg hynny. Mae yna ddigon o hogiau sydd wedi llwyddo ar y lefel iau oherwydd eu tyfiant cynnar.