Gan ei bod yn Fis Hanes Du, mae cylchgrawn Golwg wedi codi’r wal dalu ar golofn ddiweddaraf Natalie Jones, sydd yn trafod digwyddiad “pwerus a chofiadwy” diweddar gan Gyngor Hil Cymru…

 

Roedd lansiad Mis Hanes Pobl Dduon yn Amgueddfa Sain Ffagan ddydd Sadwrn gan Gyngor Hil Cymru yn un pwerus a chofiadwy!

Pwrpas y dydd oedd defnyddio Mis Hanes Du i sbarduno dysgu a mwynhau Hanes Pobl Dduon dros 365 o ddyddiau’r flwyddyn.

Cynhelir Mis Hanes Du pob Hydref ac mae wedi bod yn ffordd dda o atgoffa pawb yn y Deyrnas Unedig bod pobl Du yn rhan bwysig a gwerthfawr yn ein cymunedau; a hefyd, bod eu cyfraniad wedi siapio bywydau pawb mewn un ffordd neu’r llall.

Ond mae’n amser nawr i ddod yn wybodus a bod yn barod i ddysgu am ddiwylliant, gwerth a hunaniaeth pawb yng Nghymru, a gwneud hynny bob dydd.

Mae’n amser hefyd i bobl ifanc Du weld eu gwerth hwy a bod yn hyderus yn eu hunain fel dinasyddion Cymru.  Felly sbarduno hyn oedd nod y digwyddiad yn Sain Ffagan.

Agorwyd yr achlysur gydag araith gan Uzo Iwobi CBE, Prif Weithredwr Cyngor Hil Cymru.  Yna siaradodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jan Hutt AoS, am y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun yn nodi’r camau y byddant yn eu cymryd i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol ac ar y cyd, gwneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.

Esboniodd y Gweinidog fod digwyddiadau fel yr un yn San Ffagan yn hynod o bwysig i helpu ni fel cenedl i gyrraedd y bwriad hwn.  Mae Jane Hutt yn cydnabod y tangynrychiolaeth sy’n wynebu rhai pobl ac yn cael effaith negyddol ar eu cyfleoedd.

Roedd hefyd yn ddiwrnod i ddathlu cynnydd a magu hyder yn ein plant. Galwodd y Gweinidog ar bawb i gymryd agwedd o ‘zero tolerance’ tuag at hiliaeth ac i fod yn ymwybodol o’r cyfraniad sylweddol y mae pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wedi’i wneud i ddatblygiad Cymru, fel mae’r elusen Cyngor Hil Cymru yn pwysleisio.

Canu

Fe gawson ni adloniant yn San Ffagan gan Lucas Rowe & Blank Face, Wahda a’r Fitzalan Band Ieuenctid ‘Steel Pan’ , Xenith, Miss Faithee a’r Rose Gold Gospel Choir.

Hefyd, cawsom ni berfformiad gwych o gân Adele, ‘Easy On Me’, gan hogan fach 11 oed!  Mae Luchia Ellul-Alimikhena yn hyfryd, yn dalentog ac yn un o’r bobl ifanc sy’n cael y cymorth i fynegi eu hunaniaeth ar blatfform positif.

Does dim byd gwell na gweld plant a phobl ifanc yn hapus ac y disgleirio gyda chynnwrf a llwyddiant!

Roedd cyfle hefyd i gael blas ar fwyd o Jamaica a Nigeria.

Dwyt ti ddim wedi byw os nad wyt ti wedi cael cyw iâr ‘jerk‘ neu reis ‘jollof‘!

Mewn awyrgylch gynnes, llawn hwyl, dysgon ni am draddodiadau ein cyn-dadau a chwrdd â busnesau ac elusennau sy’n gweithio’n galed i hybu bywydau teg i bawb.  Ar ben hynna, roedd yr adloniant yn anhygoel!

Mae’r rhwydwaith o gwmpas digwyddiadau fel hyn yn dod â phobl gyda’i gilydd ac yn ysbrydoli a sbarduno gweithredu newydd drwy’r adeg.

Siaradais i gyda Jessica Dunrod, sef awdur ac un o’r mentora AwDUra, wyneb yn wyneb am y tro cyntaf.

Ges i’r cyfle i ofyn cwestiynau am gyhoeddi llyfrau plant a’r daith i rannu syniadau creadigol.

Roedd hyn yn enghraifft arall o sut mae Cyngor Hil Cymru yn dod â sefydliadau allweddol o fewn y wlad at ei gilydd i gydweithredu ar hyrwyddo integreiddio, cyfiawnder a chydraddoldeb hiliol mewn sefydliadau a chymdeithas.

Mae’n beth emosiynol a chyffrous i weld amcanion y mudiad yn cael mwynhad mor enfawr!