“Ry’n ni’n colli hyder pobl drwy ddefnyddio jargon y llywodraeth. Yn aml, mae’r geiriau hyn yn rhy gyffredinol ac amwys, a gallant arwain at gamddehongli neu destun dibwrpas.”

Dyna ddyfyniad uniongyrchol o Ganllaw Arddull Llywodraeth Cymru, ac mae’n anodd anghytuno.

Un o’r erchyll eiriau sy’n cael chwip dîn gwbwl haeddiannol yn y canllaw yw ‘trosfwaol’.