Mae criw o gigyddion wedi bod draw I Sacramento yng Nghaliffornia I gystadlu yn Her Cigyddion y Byd.

Daeth y Cymry yn chweched o blith 13 o wledydd wrth iddyn nhw gystadlu yng Ngemau Olympaidd y Cig am y tro cyntaf erioed.

“Mae ganddyn nhw le i ymfalchïo yn eu camp yn cynrychioli Cymru yn Her Cigyddion y Byd,” meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig yn Llywodraeth Cymru.