Does fawr neb yn dathlu Gŵyl Mihangel mwyach. Dyma’r dyddiau tawel, yr hen haf yn llithro ymaith ac oriau golau dydd yn cywasgu ac yn colli gwres a disgleirdeb. Rhywdro, yn y fan hyn, bu dathliadau o Fihangel, yr archangel hollbresennol anweledig. Yr unig angylion sydd yma bellach ydi’r barcutiaid sy’n hedfan cylchoedd yn yr awyr rhwng llethrau’r Wyddfa a’r nefoedd. Maen nhw’n gwbl sanctaidd, ac weithiau, wrth gerdded llwybrau hynafol sydd byth yn mynd yn hen, mae’r dyn yn dod o hyd i bluen barc