Bob hyn a hyn mae Golwg yn codi’r wal dalu ar ambell eitem o’r cylchgrawn, i bawb gael blas ar yr arlwy. Dyma i chi bortread o Phyllis Kinney, a oedd yn y rhifyn diwethaf o’r cylchgrawn…
O ganu opera i ganu gwerin, ac o America i Aberystwyth, mae hanes Phyllis Kinney yn un sy’n anodd ei grynhoi ar un dudalen.
Yn ddiweddar roedd Phyllis, gwraig y diweddar Dr Meredydd ‘Merêd’ Evans, yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed.
Os cofleidiodd unrhyw un ddiwylliant Cymru erioed, yna Phyllis oedd honno. Yn arbenigwraig ar draddodiad canu gwerin Cymru, treuliodd ddegawdau’n ymchwilio i lawysgrifau a chyhoeddiadau cerddorol y wlad.
Dechreuodd taith Phyllis ym Mhontiac, tu allan i Detroit yn nhalaith Michigan ar Orffennaf 4 1922, yn unig ferch i James, a oedd yn gweithio i gwmni ceir General Motors, a Lois, oedd yn wraig tŷ.
“Oherwydd salwch ei mam a’r gaeafau oer ym Michigan, treuliodd Phyllis fisoedd y gaeaf pob blwyddyn, am flynyddoedd, yn byw ac yn mynd i’r ysgol yn Arizona,” eglura ei merch, Eluned, wrth siarad am blentyndod ei mam.
“Yn ogystal, pan ddaeth Y Dirwasgiad adfeddiannwyd y cartref teuluol gan y banc, er bod tad Phyllis wedi llwyddo i gadw ei swydd. Cafodd hyn effaith barhaol ar Phyllis. Roedd y teulu yn mynd i’r ‘Ford Music Hour’ ac yn gwrando ar rai o sêr mwyaf y byd cerddoriaeth fel Paderewski, Rachmaninoff, Kreisler, Heifetz, Lily Pons a Kirsten Flagstadt. Yn 16 oed, sgrifennodd Phyllis: ‘Cerddoriaeth yw’r gelfyddyd yr wyf yn bwriadu ei ddilyn fel gyrfa. I fi, mae yna wefr o glywed a chreu cerddoriaeth hyfryd’.”
Yn rhyfedd ddigon, datblygodd diddordeb Phyllis mewn canu gwerin Cymraeg tua saith mlynedd cyn iddi gyfarfod Merêd.
“Ym 1940 aeth hi i Goleg Michigan State,” eglura Eluned, “i astudio cerddoriaeth ac un o’i thiwtoriaid yn fan honno oedd Gomer Llywelyn Jones, cyfansoddwr o Gymru. Fo ddaru gyflwyno Phyllis i ganu gwerin Cymraeg – ond yn yr iaith Saesneg!”
Un o Dreforys oedd Gomer Llywelyn Jones, a chreodd drefniannau o ganeuon gwerin fel ‘Y Deryn Du’ a ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’ iddi eu canu.
Yn 1943, aeth i astudio opera yn Efrog Newydd, ac yno y daeth i gysylltiad â’r Parchedig Cynolwyn Pugh, Gweinidog Eglwys Bresbyteraidd Gymraeg y ddinas. Yntau ddysgodd Phyllis i ynganu geiriau Cymraeg fel ei bod hi’n gallu canu’r caneuon gwerin gwreiddiol.
“Yn 1947, yn dilyn tair blynedd yn Efrog Newydd, daeth Phyllis i Brydain, ar awgrym Parch Cynolwyn Pugh,” eglura Eluned.
“Yn dilyn clyweliad… cafodd wahoddiad i ymuno â chwmni opera teithiol Carl Rosa. Teithiodd o gwmpas Prydain gyda’r cwmni a chanodd Musetta yn La bohème a Micaëla yn Carmen.”
Yng nghantîn y BBC ym Mangor, bythefnos ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig, cafodd Phyllis ei chyflwyno i Driawd y Coleg, sef grŵp Merêd.
Priododd y ddau, rhoddodd Phyllis y gorau i’r canu opera, a ganwyd eu hunig blentyn, Eluned, yn 1949.
Yn y 1950au, symudodd Phyllis a’r teulu i’r Unol Daleithiau er mwyn i Merêd gwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Princeton yn New Jersey. Yn ystod y cyfnod hwn, buodd hi yn athrawes gerddoriaeth mewn ysgol feithrin a pharhaodd i ganu’n gyhoeddus.
Yn ystod eu hamser yn America, roedd Merêd a Phyllis yn cael gwahoddiadau i ganu mewn nosweithiau a cheisiadau i ganu caneuon yn mewn sawl iaith – Cymraeg, Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg, Rwsieg, Sbaeneg, a Hebraeg.
Daeth y teulu’n ôl i Gymru yn y 1960au, i Fangor i ddechrau, yna Caerdydd, cyn setlo ym mhentref Cwmystwyth yng Ngheredigion ynghanol y 1980au.
“Mae’n wir i ddweud bod ganddi hiraeth am ei bywyd yn yr Unol Daleithiau, ond y peth mwyaf anodd iddi pan symudodd oedd gadael ei rhieni,” meddai Eluned.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, dechreuodd Phyllis weithio ar gyhoeddiadau cerddorol i blant. Bu’n rhoi gwersi canu ym mhrifysgolion Bangor a Chaerdydd, a daeth yn adolygydd ar gyfer y cyfnodolyn Welsh Music.
Erbyn y 1980au, roedd gan Phyllis afael cryf ar y Gymraeg ac roedd ei gwreiddiau’n ddwfn yng Nghymru, a dechreuodd ymchwilio i gerddoriaeth draddodiadol Cymru o ddifrif.
“Roedd Phyllis a Merêd yn rhannu’r diddordeb yn, a chariad at, y traddodiad yn ogystal â’r sgiliau ymchwil, ond y peth mwyaf oedd y ffaith eu bod nhw’n ategu ei gilydd,” eglura Eluned.
“Ffrwyth yr holl ymchwil oedd Welsh Traditional Music a sgrifennwyd gan Phyllis a chyhoeddwyd yn 2011 gan Wasg Prifysgol Cymru. Ond nid hwnnw oedd y diwedd – mi barodd y bartneriaeth a’r ymchwil am dros 65 o flynyddoedd.”
Trwy ddysgu siarad Cymraeg y gwnaeth ei mam lwyddo i gofleidio’r diwylliant mor llwyddiannus, meddai Eluned.
“Roedd Phyllis yn deall mai’r iaith oedd ei hallwedd i ddiwylliant a thraddodiad Cymru,” ychwanegodd Eluned.
“Mae hi’n berson cryf, egwyddorol a chydwybodol, yn credu mewn hawliau dynol a chyfrifoldebau dynol. Mae hi’n berson cadarn ac yn gefn i’n nhad a minnau – yn ystod yr adegau da a’r adegau anodd. Mae hefyd yn llawn hwyl ac wrth ei bodd yn mwynhau cwmni ei ffrindiau ac, yn enwedig, ei wyrion a gor-wyrion. Mae’n anodd tu hwnt trosi cariad yn eiriau ond, i mi, hi yw’r fam orau yn y byd.”
Mae Phyllis wedi bod yn byw yng Nghartref Hafan y Waun yn Aberystwyth, cartref ar gyfer pobol â dementia, “lle mae hi’n hapus, iach a diogel ac yn cael y gofal gorau a mwyaf cariadus gan staff y cartref”, ers 2019.
I ddathlu’r 100 oed, fe wnaeth staff y cartref drefnu cinio Americanaidd arbennig gyda chacen a bynting.
“Aethom ni, fel teulu, i ddathlu gyda mam a rhoi ei chardiau a’i anrhegion iddi ac yn y prynhawn cynhaliwyd cyngerdd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gydag Elinor Bennett yn chwarae’r delyn.”
Cafwyd dathliad arall gydag aelodau’r capel yng Nghwmystwyth, a chynhaliwyd cyngerdd arbennig, wedi’i drefnu gan Sioned Webb a Mair Tomos Ifan, yn yr Eisteddfod i ddathlu’r achlysur.
“Mae wedi bod yn wledd o ddathlu ac rydyn ni, fel teulu, mor ddiolchgar i bawb am y cariad sydd wedi ei ddangos tuag at mam.”