Gyda’r prif firi ar ben, efallai bod hi’n haws rŵan edrych yn ôl ar y cyfnod diweddaraf yma wedi marwolaeth y Frenhines. Daeth bellach yr amser i drafod a dadansoddi. Hwyrach na fyddwn ni’n gwybod effaith go-iawn y pythefnos hwnnw am gryn amser. Ac, efallai, fod yna rai ohonom yn rhy awyddus i weld ystyr i bethau’r tu hwnt i’r hyn a oedd.

Ond roedd yna awgrym fod yna rywbeth bach wedi digwydd yng Nghymru, a hynny’n wahanol i dair gwlad arall y Deyrnas Unedig.