Wnes i erioed gyfarfod y diweddar Eddie Butler, ond roedd o’n ddyn wnaeth ddylanwadu arnaf gan fy addysgu ers y tro cyntaf i fi ei weld o’n chwarae dros Gymru yn 1980. I fod yn onest, doeddwn i ddim yn ffan mawr ohono fo ar yr adeg hynny. Fel hogyn dosbarth gweithiol o Gilfach Goch, roeddwn i’n disgwyl bod blaenwyr yn ddynion caled ac yn gweithio yn y diwydiannau trwm. Roeddwn i’n meddwl dyla blaenwyr fod wedi cael eu haddysgu yng Nghaerffili, nid Caergrawnt. I fi, roedd Eddie Butler yn rhy ‘pos