Mae un o chwaraewyr rygbi Cymru, un o ddihirod Pobol y Cwm a chyn-Weinidog Addysg Cymru ymysg y rhai sydd wedi cyfrannu at lyfr coginio dwyieithog newydd.

Dan Lydiate, ‘Garry Monk’ a Kirsty Williams ydy tri o’r cogyddion sy’n rhannu eu ryseitiau yn Llyfr Coginio Cymunedol Aberhonddu.

Bydd holl elw’r gyfrol yn mynd tuag at Fanc Bwyd y dref, ac mae’r ryseitiau’n amrywio o fara lawr i gyri Nepalaidd, ac o fyrgyrs cig oen Cymreig i fisgedi Maltaidd.