Mi ellir dyfalu llawer am bobl o edrych ar y ffordd y maen nhw’n trin eu hanifeiliaid. Ydyn nhw’n dyner, yn garedig, yn anghariadus. Faint o ymdrech y maen nhw’n ei roi i’w gofal, faint o bleser y maen nhw’n ei gael o’u cwmni. A gall y ffordd maen nhw’n cael eu mowldio hefyd adlewyrchu’r perchennog. Er enghraifft, mae Sioni, fy nghi i, yn idiot.