Cefais fy ngeni yn 1987 felly yn dechnegol plentyn yr 80au ydw i. Ond o ran fy atgofion cyntaf a fy mlynyddoedd ffurfiannol dw i’n ystyried fy hun yn blentyn y 90au. Gallwch ddychmygu felly fy mod i wedi cyffroi ychydig wythnosau yn ôl pan glywais i hysbyseb am gyfres newydd Radio Cymru, Ni y Nawdegau.