Mae ein gofid dros ymosodiad Rwsia ar Wcráin fel petai wedi gostegu.

Mae’r sioc gychwynnol o ddeall bod dinasoedd cyfain yn cael eu dinistrio fel petai wedi troi’n rhyw dderbyn ffwrdd â hi mai fel hynny y mae.

Mae’r ffaith bod miliynau o bobl wedi gorfod ffoi o’u cartrefi a’u gwlad fel petai wedi troi o fod yn fater oedd yn peri tristwch ac yn ennyn cydymdeimlad mawr, i fod yn fater sy’n cael ei ystyried yn gymharol ddibwys.