Roedd yna griw cyfoes draw ar y Maes yn Nhregaron yn cyfuno dawnsio gwerin gyda feib y bywyd nos cwiar, a hynny mewn dillad oedd yn rhoi tro yng nghynffon yr hen wisgoedd traddodiadol Cymreig.

Ac mae sioe gyflawn gan y Dawnswyr Qwerin ar ei ffordd diolch i nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru.