Wel am wythnos! Roedd yr Eisteddfod yn un llawn presenoldeb y gymuned cwiyr Gymraeg a ges i’r amser i gwrdd lan gyda hen ffrindiau o’r byd theatr a cherddoriaeth Gymraeg, a hefyd cwrdd â phobl roeddwn i wedi bod yn siarad gyda nhw ar-lein yn ystod y pandemic am y tro cyntaf.

Teimlais y cysylltiad pwerus rhwng y gymuned o gerddorion a phobl greadigol rwy’n rhan ohoni – mae o wedi ysgogi ac ysbrydoli fi mewn sawl ffordd.