Mae Golwg wedi codi’r wal dalu ar yr erthygl ganlynol, er mwyn i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…
Mae ffotograffydd o Geredigion wedi bod yn cofnodi bywyd Maes yr Eisteddfod Genedlaethol drwy lens ei chamerâu ers bron i bedwar degawd.
Mi fuodd Marian Delyth yn rhoi cyflwyniad am ei lluniau Eisteddfod yn Y Lle Celf ddydd Mawrth, ar ôl dechrau didoli ei miloedd o luniau yn ystod y cyfnod clo. Mae hi wedi mynd â’i chamera i bob Eisteddfod bron yn ddi-dor ers 1975.
Bu’n didoli ei holl luniau dros y degawdau – o’r negatifau cynnar du a gwyn, o’i chyfnod yn niwedd y ganrif ddiwethaf pan y byddai’n defnyddio ffilm lliw, i’r lluniau digidol diweddaraf, y dechreuodd eu tynnu o 2004 ymlaen. “Mae hi’n archif helaeth,” meddai Marian Delyth.
“Roedd yn dipyn o dasg. Dw i wedi gorfod sganio printiadau, a negatifau. Mae’r ffeiliau digidol yn hawdd… Mae popeth wedi ffeilio.
“Dyw fy archif ffilm du a gwyn ddim wedi cael eu digido, felly mae hwnna’n creu problem. Mae gen i negyddion,
printiadau a phob math o bethe. Ond maen nhw wedi eu ffeilio fesul degawd, dw i’n gwybod ymhle mae’r lluniau.”
O ran ei gyrfa, mae hi wedi tynnu lluniau cyhoeddusrwydd ar ran yr Eisteddfod ei hun, a rhai i’r wasg o’r Maes. Ond ei dyletswydd bennaf fel ffotograffydd, meddai, yw cofnodi a dyma sy’n amlwg yn y lluniau y mae hi’n eu trafod yn ei chyflwyniad.
Yn ogystal â gwylio o’r cyrion yn ystod y dydd, fe fydd hi’n hoffi tynnu lluniau ar y Maes pan fo’r gweithgarwch wedi dod i ben, a mynd i gerdded y Maes gyda’r hwyr, neu yn y tywyllwch, neu yn gynnar iawn yn y bore. “Dy’n nhw ddim yn llawn bywyd,” meddai.
Un o’i lluniau diweddaraf o’r brifwyl yw’r un a dynnodd wrth i waith adeiladu ddechrau ar y Maes yn Nhregaron. Mae yna ddarnau o neuaddau hyd y lle, ac un arwydd â’r geiriau ‘Theatr’ yn amlwg arno, a bryniau Ceredigion yn y cefn.
“Dw i’n gweld y Maes fel theatr,” meddai Marian Delyth. “Dw i’n gweld yr hyn dw i’n ei wneud fel ffotograffydd –
cofnodi cyfres o olygfeydd bychain, o’u rhoi at ei gilydd yn creu portread o beth yw’r Steddfod.”
Mae hi’n adnabyddus am dynnu lluniau protestiadau iaith dros y degawdau, a dangosodd sawl llun o brotestiadau ar y Maes yn ei chyflwyniad.
Fe fyddai yn amhosib iddi ddewis un llun penodol i gynrychioli naws yr Eisteddfod. “Os sôn am ddrama,” meddai, “fyddech chi ddim yn tynnu un olygfa mas o ddrama a dweud ‘dyma’r olygfa orau’. Dw i’n eu gweld nhw fel casgliad o luniau.”
Deall yr hanes – a hawl i godi gwên
Mae hi’n falch o’i chysylltiad dwfn â’r Eisteddfod, ei phobol a’i diwylliant. Yn y cyflwyniad, dangosodd hen ffotograff sydd ganddi o’i thad, T R Jones, yn sefyll y tu allan i’r Arddangosfa Celf a Chrefft yn Eisteddfod Machynlleth 1937. Ef oedd cynllunydd wyneb-ddalen Rhaglen yr Eisteddfod honno – roedd yn athro yn Ysgol Sir Machynlleth ar y pryd. Yn ystod ei yrfa, buodd ei thad yn athro Celf a Gwaith Coed, ac yn dysgu Gwaith Metel a Dylunio Peirianneg.
Roedd yn amlwg yn ddylanwad ar ei ferch – fe fuodd Marian Delyth yn ddylunydd graffeg am flynyddoedd mawr. Ganddo fe y cafodd yr ysfa i dynnu lluniau hefyd – roedd yn ffotograffydd brwd, ac mi fyddai’n troi yr atig, “y rŵm cawdel,” yn stafell argraffu lluniau o bryd i’w gilydd.
Yn y cyflwyniad, dangosodd hefyd gyhoeddiad o 1928, y peth cynharaf sydd ganddi o ran ei chysylltiad hi gyda’r Eisteddfod. “Fel ffotograffwyr, rydyn ni gyd yn dod o gefndir gwahanol iawn,” meddai. “Allwch chi gael rhywun o rywle yn dod i dynnu lluniau yn yr Eisteddfod. Ond dw i oddi mewn i’r diwylliant yn sicr.”
Gan ei bod hi’n ymwybodol o’r hanes, mae hi’n teimlo bod ganddi’r hawl i dynnu ambell lun sy’n codi gwên. Fe fydd achlysuron yr Orsedd yn cynnig lluniau o’r fath, “achos bod y gwisgoedd mor anghymarus â’r cefndir cyfoes,” meddai. Enghraifft o hynny yw’r llun o’r Orsedd ym Mae Caerdydd, gydag arwydd bwyty mawr Americanaidd Wagamama y tu ôl iddyn nhw.
Dal eiliad
Un llun mae hi’n hoff ohono yw’r un o ddiwedd perfformiad Ffion Dafis yn monolog un-fenyw Aled Jones Williams, Anweledig, yn Eisteddfod Dinbych 2013.
“Un peth mae camera yn gallu ei wneud yn wych yw dal eiliad,” meddai. “Mae hwn yn enghraifft o hwnna… Dw i’n meddwl fy mod i wedi dal y perfformiad olaf un. Roedd y lle yn llawn, ac ar y diwedd mae ymateb y gynulleidfa i’w weld mor amlwg yn y llun. Mae Ffion yn sydyn dan deimlad, ac mae wedi rhoi ei phen yn ei llaw.”
Fe fuodd Marian Delyth yn aelod o Bwyllgor Sefydlog Celf Y Lle Celf am tua 10 mlynedd, ac mae hi’n hoffi treulio amser yn y Lle Celf, a thynnu lluniau yno. “Mae e’n lle pwysig o fewn y calendr,” meddai.
“Dw i’n hoffi’r syniad o dynnu pobol yng nghanol celfyddyd. Mae miloedd o bobol yn mynd drwy’r Lle Celf, yn wahanol i oriel gelf draddodiadol, a llawer iawn yn mynd na fyddai’n arferol yn mynd i oriel gelf.”
Un o rinweddau Marian Delyth fel ffotograffydd yw nad fydd eisteddfodwyr prin yn sylwi arni gyda’i chamera.
“Dw i wastad wedi bod yn un sydd yn y cefndir,” meddai. “Y delweddau sy’n bwysig, nid gwneud ryw sioe fawr o’u tynnu nhw.
“Dw i’n trio sefyll yn fy unfan am amser hir, nes fy mod i’n gweld y llun, ac yna’i dynnu fe. Dw i’n aml iawn yn eistedd yn llonydd, a gweld llun yn datblygu. Dyna yn gyffredinol yw fy steil.”