Gwreiddiau dwfn. Bro mebyd. Crochan Cymreictod.

Does yna’r un dynfa debyg i’r dynfa honno i’r man lle cawsoch eich magu. Eleni, ym mlwyddyn ei ‘Dadeni’, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Dregaron am y tro cyntaf erioed. I Geredigion, sir y Cardis, fy sir enedigol i. A nagoes, does yna ddim sir debyg drwy’r wlad i gyd.