Roeddan nhw wedi gadael pecyn bach hyfryd i ni ar fwrdd y gegin, chwarae teg iddyn nhw. Cacenni cri; menyn lleol; siocled Cymreig; torth ffres o fecws mewn ffermdy cyfagos. Roedd ’na nodyn bach hefyd – Mwynhewch eich gwyliau yn ein bro bendigedig! Carys a Huw x Pobol glên.