Roedd Tour de France 2022 un o’r gorau i fi gofio. Yn ogystal â’r gystadleuaeth arbennig rhwng yr enillydd Jonas Vingegaard a Tadej Pogačar roedd yna feicwyr eraill yn disgleirio yn y ras hefyd. Er mai Vingegaard sy’n gwisgo’r melyn, does yna ddim dwywaith pwy oedd y dyn cryfach yn y ras, a hynny oedd Wout van Aert. Dim ers dyddiau Bernard Hinault ydyn ni wedi gweld rhywun sydd mor gryf yn sbrintio, dringo a rasio yn erbyn y cloc. Mae van Aert yn gallu gwneud popeth.