Y tu ôl i’r teras lle ces i fy magu yn Llanelli, roedd yna lôn gefn front a llychlyd.

Ac un o’r atgofion cliriaf sy gen i o fy mhlentyndod cynnar yw mynd i’r lôn gefn honno, rhwbio fy nwylo yn y llwch, a’i daenu’n drwch dros fy wyneb. Wrth feddwl amdano nawr, mae’r atgof yn gwbl, gwbl glir – fel petai wedi digwydd ychydig wythnosau, yn hytrach na degawdau, yn ôl.