Dychwelodd y Sioe Fawr i Lanelwedd am y tro cyntaf ers tair blynedd yr wythnos ddiwethaf a gyda hynny, dychwelyd i’n sgriniau teledu hefyd wrth gwrs.
Mae’r Sioe yn ddau beth. Mae’n uchafbwynt i’r gymuned a’r diwydiant amaethyddol, yn gyfle i bobl cefn gwlad ymgynnull, ymfalchïo ac ymlacio. Ond mae’n ffenestr siop hefyd, yn gerbyd i rannu, addysgu a hyrwyddo’r byd amaeth i bobl na fyddai fel arfer yn ymwneud nac yn ymddiddori ynddo.