Dwn i ddim amdanoch chi ond ma’r gwres yma’n gwneud imi deimlo’n llesg a dramatig. Mae rhywbeth meddwol am wafftio o gwmpas y tŷ mewn kaftan efo dwy gath, gydag awel fflat yn styrbio’r llenni. Dw i wedi dechrau yfed fy nghoffi iâ o wydr highball a defnyddio ffan law hen ffasiwn mewn cyfarfodydd Teams. Yn mynnu rhyw ffug-lewyg bach byr (a trît o’r rhewgell) ar ôl cwblhau’r tasgau bob-dydd mwya pitw. Yn gryno, mae pethe wedi dechre mynd braidd yn Tennessee Williams yma y