Dw i wedi cael y fraint fawr sawl gwaith dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf o ddysgu ar gwrs haf blynyddol Cymdeithas Madog, Cymdeithas Gymraeg Gogledd America.

Mae’r criwiau anhygoel sy’n dod ynghyd o bob rhan o’r Unol Daleithiau a Chanada bob blwyddyn i ddysgu ein hiaith wastad yn llwyddo i godi’r galon, gyda’u brwdfrydedd a’u hangerdd dros y Gymraeg, a’u hymroddiad diflino i’w meistroli.