Pan fo prinder tai yng Nghaerdydd mae’r Cyngor Sir yn mynd ati i sicrhau fod mwy yn cael eu hadeiladu.

Er enghraifft, rhwng 2015 a 2019 adeiladwyd 10,000 o fflatiau ar gyfer myfyrwyr yn y brif ddinas. Yn ychwanegol at hyn mae 15,400 o dai yn cael eu hadeiladu ar gyrion y ddinas, yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn 2006.