Flwyddyn yn ôl i’r wythnos hon, datganodd y Senedd Argyfwng Natur swyddogol. Fel rhywun sydd wrth ei fodd â’r byd naturiol, gwelais hyn fel rhywbeth i’w groesawu. Mae’n ddeuddeg mlynedd ers i’r byd cyfan gytuno ar dargedau i atal y golled enfawr yn ein bioamrywiaeth – degawd y mae rhai sefydliadau fel RSPB Cymru yn ei disgrifio fel ‘degawd goll’.