Mae datganoli’n wynebu un o’i heriau mawr. Mi fydd llawer yn dibynnu ar weithredoedd y Llywodraeth Lafur yn ystod yr wythnosau nesa’.

Roedd y bygythiad yno ers pum mlynedd a, bellach, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithredu i ddileu deddf Gymreig sy’n cael ei hystyried yn allweddol.

Yn 2017, er mwyn dad-wneud cyfraith oedd wedi ei phasio yn Llundain, fe gefnogodd y Senedd yng Nghaerdydd Ddeddf Undebau Llafur newydd.