Sai ’di bod i Glastonbury erioed, a ma’ siawns dda erbyn hyn nad a’i fyth, ma’n siŵr. S’da fi mo’r amynedd sydd ei angen i aros ger fy nghyfrifiadur yn reffresho’r sgrîn ffwl pelt i drïo cael tocynnau… ac a bod yn onest, dw i ddim gant-y-cant yn siŵr bo’ fi ishe mynd.