Mae un o gyflwynwyr rhaglen Heno wedi cael blwyddyn anodd, ac wedi ei chofnodi ar gyfer rhaglen ddogfen. Yma i ddweud mwy am yr hanes mae’r cynhyrchydd teledu Elena Mai Roberts…

Mae un o bob 500 person yng ngwledydd Prydain yn byw gyda Sglerosis Ymledol – Multiple Sclerosis. Mae pawb fel petaen nhw wedi clywed am y cyflwr, ond prin yw’r bobol sydd wir yn deall y cyflwr. Yn y byd meddygol mae MS yn cael ei alw’n ‘Snowflake disease’, ac yn union fel pluen eira does ’na fyth ddau achos yr un fath.

Ym mis Ebrill 2021 fe gollodd Daf Wyn ei allu i ynganu ei eiriau’n gywir tra’n cyflwyno Prynhawn Da yn fyw ar yr awyr. Wrth i’r credits redeg ac wrth iddo dynnu’r meicroffon i ffwrdd, mi’r oedd Dafydd yn gwybod ym mêr ei esgyrn nad oedd pethau yn “iawn”. Y noson honno fe gerddodd mewn i ‘Sbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd, ymweliad fin nos ag A&E arweiniodd at wythnos o brofion, poen meddwl a diagnosis answyddogol. Multiple Sclerosis.

Mis yn ddiweddarach fe ddaeth y diagnosis swyddogol. Roedd o’n fachgen ifanc ffit, wedi rhedeg sawl hanner marathon, wedi cerdded i droed mynydd ucha’r byd. Ond fe newidiodd ei fywyd dros nos – ag yntau ond yn 30 mlwydd oed.

Yn ystod dyddiau cynnar y diagnosis fe benderfynodd Daf ei fod am ffilmio ei siwrna ar gyfer rhaglen ddogfen, a hynny er mwyn helpu’r un ymhob 500 a’u teuluoedd.

Mae rhaglen fel hon yn galw am ddeunydd a ffwtej personol – yr adegau rheiny pan nad yw camera na’r criw hyd lle, pan fo’r meddwl yn poeni ganol nos a’r diffyg cwsg yn fwrn – ac fe fuodd Daf yn ffilmio’r cyfan ar ei ffôn. Mae’r cynnwys yn gignoeth o onest ac yn bortread ‘real’ o fywyd ôl-ddiagnosis.

Mae Daf o’r dechrau’n deg wedi penderfynu bod rhaid bod yn bositif, “Ma’ fe ‘da fi. S’dim gwella, ond mae posib wneith e ddim gwaethygu, a ‘na beth sydd ishe edrych arno, a ‘na beth fydda i’n cadw yn fy mhen.”

Triniaeth hegar a heriol

Fe wynebodd Daf ddewis o bum triniaeth – fe benderfynodd fynd am yr un mwya’ hegar ar y corff – Alemtuzumab – triniaeth sy’n chwalu’r system imiwnedd ac yn dechrau eto i bob pwrpas. Fe gofnododd y cyfan o wely ysbyty.

Roedd y dyddiau’n hir, yn hegar, ac yn heriol.

Un o hoff gerddorion Daf yw’r canwr Al Lewis, ac yn ddiweddar fe bostiodd Al ar ei gyfrif instagram ei bod yn 15 mlynedd ers iddo golli ei Dad i MS.

Roedd 15 mlynedd ’nôl yn fyd gwahanol iawn ym maes MS o gymharu â heddiw – mae triniaethau bellach yn arloesol, ac mae Al yn awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr. “Dw i ‘di cael gymaint o bleser wrth wylio rhaglen Daf a gweld gymaint mae’r driniaeth wedi datblygu dros y bymtheg mlynedd dwetha ‘ma,” meddai Al Lewis, “ac er bod o’n dod a thristwch i fi gan bo’r petha yna ddim ar gael pan oedd Dad yn diodde’, mae’n grêt gweld bod o yna i Daf, a gweld bod o’n bosib rwan i gael gafael arna fo’n gynnar ac arbed o rhag gwaethygu. Roedd yn rhoi gymaint o bleser i fi wylio hynna”.

Pan oedd Daf yn ei wendid yn yr ysbyty ar ôl clywed y diagnosis mae’n cofio geiriau Nyrs Jacki Smee hyd heddiw: “Mae pobol erbyn hyn yn marw gyda MS, nid o achos MS”. Ac yn ystod y rhaglen awr o hyd, fe fydd Daf yn cael aduniad emosiynol iawn â Nyrs Jacki. Mae hi wedi bod yn gweithio ym maes MS ers dechrau’r 1990au, a phan ddechreuodd hi ar yr yrfa honno doedd DIM un driniaeth ar gael, doedd dim nyrsys arbenigol. Ond erbyn heddiw mae yna 17 o driniaethau yn eu lle, a neges bwysig Nyrs Jacki i Daf ar ddiwedd y sgwrs ‘sgytwol yw, “lead your life”.

Methu cerdded i’r tŷ bach

Mae cariad Daf Wyn, Catrin Chapple, wedi bod yno fel y graig, a hi sydd wedi bod yno fel angor yn ystod y dyddiau a’r nosweithiau tywyll. Pan ddaeth y vertigo i’w lorio, mae Catrin yn cofio’r cyfnod anodd.

“Roedd e’n mynd mor sick, o’n i ddim yn gwybod os oedd e’n mynd i stopio. Ac roedd e methu gwneud pethe fel cerdded i’r tŷ bach. Ac mae pethau fel yna’n dod â chi at eich gilydd, yn hala chi sylweddoli taw dim ond y ddau ohonoch chi sy’ ‘da chi. Chi’n mynd i helpu’ch gilydd trwyddo fe, ac mae hynny’n bendant wedi cryfhau perthynas ni mwy na dim byd.”

Er bo’ teulu a ffrindiau o fewn gafael, roedd Daf hefyd yn gwybod bod rhaid iddo drafod a sgwrsio â phobol eraill sy’n “Byw gydag MS”. Yn ystod y rhaglen ddogfen bydd Daf yn cwrdd â hen ffrind ysgol iddo sydd wedi wynebu’r union r’un driniaeth, ac fe fydd o hefyd yn cwrdd â Jo Hodges o’r Barri sy’n byw â’r cyflwr ers dros 15 mlynedd, heb anghofio Angharad Lloyd o Sir Benfro wnaeth orfod aros chwe blynedd am ddiagnosis.

Mae yna obaith ar ddiwedd y rhaglen, yn ôl Daf, “dyma flwyddyn waetha… a gore fy mywyd i”.

Byw gyda MS ar S4C nos Fawrth nesaf, 5 Gorffennaf, am naw