Y newyddion drwg? Mae streiciau gan weithwyr rheilffordd yn mynd i gael effaith fawr yr wythnos yma. Y newyddion da-ish? Fydd yna fawr ddim effaith mewn rhannau helaeth o Gymru, sydd heb reilffyrdd o fath yn y byd.

Ond nid hon fydd yr unig streic; mae yna sawl carfan arall o weithwyr eisoes yn trafod gweithredu, wrth i chwyddiant greu trafferth yn y berthynas rhwng gweithwyr a chyflogwyr. Ac mi fydd anghydfod y rheilffyrdd yn cael ei weld yn faen prawf ar gyfer sectorau eraill.