Nos Sadwrn roedd Gwenno yn cynnal perfformiad arbennig ar safle arbennig ar ddiwrnod arbennig.

Wrth iddi fachlud, roedd y gantores feiddgar yn canu ar ben siambr gladdu Bryn Celli Ddu, ar ddiwrnod hira’r flwyddyn – Heuldro’r Haf.

Dyma’r unig ddiwrnod pan mae’r haul yn goleuo tu mewn yr hen siambr gerrig sy’n sefyll ers 5,000 o flynyddoedd ac wedi ei leoli rhyw bedair milltir i’r gorllewin o Lanfairpwllgwyngyll ym Môn.