Rownd amser yr heuldro mi fydda i’n trio cymryd seibiant i gadw stoc a chyfri fy mendithion. Cyn y pandemig, roeddwn i’n mynd yn selog bob blwyddyn i gaban pren bychan tu allan i Glastonbury – yn treulio’n diwrnod yn crwydro’n hamddenol rownd ei pherllenni, y machlud yn yr hot tub a’r bore wedyn yn cael twtch o reiki gan wrach garedig iawn o Swydd Efrog.