Ym 1746, daeth bachgen ifanc Du i gartref y teulu Wynne yng Nghricieth.

Yn dilyn herwgipio’r bachgen i gael ei werthu i’r fasnach gaethweision Trawsatlantig, fe gafodd ei brynu a’i roi i’r teulu Cymreig aristocrataidd. Tynnwyd ei enw, ei iaith a’i ddiwylliant oddi arno, ac ar ryw adeg, roedd y bachgen yn cofio gweld a chlywed ei fam yn sgrechian ac yn crïo wrth iddo gael ei rwygo oddi wrthi.

Fodd bynnag, yma, yng Nghymru, fe gafodd y bachgen gariad a pharch… ac enw. Fe’i galwyd yn John.