Yn dilyn y gyflafan ofnadwy ddiweddaraf yn yr Unol Daleithiau – yn Uvalde, Tecsas y tro hwn – fe drodd miliynau o bobl ledled y byd, yn eu diymadferthedd, at y cyfryngau cymdeithasol i fynegi sioc a gofid a chydymdeimlad.

Roedd sylwadau fel y rhain yn gyffredin:

“Fel rhiant fy hun, rwy’n cydymdeimlo o waelod calon…”

“Fel tad i ddau o blant, mae hyn wedi fy mwrw i’r byw…”

“Fel nain i dri o fechgyn bach, mae hyn yn torri fy nghalon…”