Fis yma fe fydd yr Urdd yn cynnal y Gemau Stryd cyntaf erioed yng Nghymru, gyda’r cyfle i blant 8+ gystadlu mewn campau fel sglefrfyrddio, beicio BMX, sgwtera a break dance.

Bydd cyfle i weld rhai o sêr y sîn Gemau Stryd Prydeinig hefyd, gan gynnwys y Gymraes Lily Rice, y gyntaf yn Ewrop i wneud back flip mewn cadair olwyn. Mae’r ferch o Sir Benfro wedi cipio sawl gwobr ryngwladol am wneud triciau ar rampiau sglefrfyrddio.