Dywedwyd wrtho fi ar ryw gwrs rwbryd mai un o swyddogaethau papurau newydd a chylchgronau – swyddogaeth ac iddi lai o flaenoriaeth falle, ond swyddogaeth serch hynny – yw cofnodi’r ymateb i’r newyddion ar y pryd ar gyfer haneswyr y dyfodol. Crychu ’nhrwyn ar syniad mor fawreddog wnes i bryd hynny, ond yn amlwg ma’ ’na ryw wirionedd i’r peth.