Mae’r ffaith bod merch yn cael portreadu Mistar Urdd yn golygu bod y sioe ieuenctid eleni yn “andros o gyfoes” yn ôl un o’r perfformwyr …

“Dw i’n teimlo’n falch iawn, o feddwl bod Mistar Urdd yn gymaint o eicon”. Dyna farn perfformiwr 18 oed fu’n chwarae rhan Mistar Urdd ei hun yn Sioe Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd eleni, ar flwyddyn canmlwyddiant y mudiad.