“Ody ddi yn iawn i fi siarad Cwmrag ’da chi?” gofynnodd y ferch oedd yn gweini arnom mewn bwyty lleol. A dyma fi’n meddwl: ydy pethau mor wael â hynny?
Does bosib bod rhaid gofyn am yr hawl i siarad eich iaith yn eich gwlad. Mae’r digwyddiad hwn yn profi i finne mae’r Saesneg yw’r ‘norm‘ mwyach, hyd yn oed yn y gorllewin – a oedd yn gadarnle.
Syr Ifan: ble’r wyt ti?
Ronnie Lewis
Crymych