Ddechrau’r wythnos ar Faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych daeth y cyhoeddiad bod merch 12 oed o Gaerdydd wedi ennill cystadleuaeth y Prif Gyfansoddwr.

Shuchen Xie yw’r ieuengaf erioed i gipio un o brif wobrau prifwyl yr Urdd, ac mae ganddi hanes o ennill cystadlaethau’r mudiad.

Y llynedd ddaeth hi i’r brig yng nghystadleuaeth cyfansoddi plant oed ysgol gynradd, a hefyd am chwarae piano.