Ers dros 200 mlynedd y mae’r Ysgol Sul Gymraeg wedi chwarae rhan bwysig ym mywydau plant ac ieuenctid ein gwlad, yn eu twf ysbrydol, moesol a chymdeithasol, a hynny trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Bydd llawer ohonom yn ddyledus am ddylanwad yr Ysgol Sul ar ein bywydau, yn ein datblygiad fel personau cyflawn. Fodd bynnag erbyn heddiw ceir cymunedau Cymraeg, mewn trefi a chefn gwlad, lle nad oes darpariaeth Ysgol Sul neu unrhyw weithgarwch Cristnogol arall ar gyfer plant ac ieuenctid yn yr ardal. B