Byddai system gyfiawnder ddatganoledig yng Nghymru yn “mynd law yn llaw gyda chyfiawnder cymdeithasol”, yn ôl Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu elfennau craidd posib ar gyfer system gyfiawnder ddatganoledig, gan rybuddio bod y system bresennol dan reolaeth San Steffan yn “cyfyngu’n sylweddol” ar fynediad at gyfiawnder.