Dyn 24 oed sy’n wreiddiol o Poole, Dorset, yw enillydd Enillydd Medal y Dysgwr yn Eisteddfod yr Urdd Dinbych 2022.

Dechreuodd Joshua Osborne ddysgu ar-lein ddwy flynedd yn ôl dros gyfnod y pandemig ar ôl i’w gymar, Angharad, rannu linc iddo i wersi Dysgu Cymraeg Morgannwg. Erbyn hyn, mae yn weddol rugl, ac yn medru darllen nofelau Cymraeg.