Mae Ann Griffith wedi byw ar bum cyfandir yn addysgu a gweithio gyda ffoaduriaid, ac er nad yw ei phlant ei hun erioed wedi byw yng Nghymru, mae’r tri yn medru siarad Cymraeg.

Yn ystod ei phlentyndod, roedd drysau’r cartref teuluol yn Aberystwyth wastad ar agor, a thros y blynyddoedd cafodd nifer o ffoaduriaid a myfyrwyr rhyngwladol groeso, gan gynnwys pobol ifanc o Hwngari, yr Almaen ac Iran.