Dathlu’r ffaith fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Ninbych eleni mae pobol leol yn hytrach na’r Jiwbilî, yn ôl un o gynghorwyr y dref.

Gyda pharatoadau ar gyfer dathliadau’r Frenhines Elizabeth ar y gweill, doedd Rhys Thomas – Cynghorydd Dinbych Isaf ac arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor Sir – heb “weld llawer o arwydd am ddim byd i wneud â’r Jiwbilî eto”.