Mi fyddai sgwrs rhwng dau o flogwyr thenational.wales ynghylch y Jiwbilî yn un werth ei chlywed. Yn y gornel las, coch a gwyn… Theo Davies-Lewis

“Y Tywysog Charles yw’r Cymro-garwr mwya’ amlwg i ddal y swydd [Tywysog Cymru] erioed. Mae ymgynghorwyr wedi’i helpu e a’r Teulu Brenhinol i wreiddio mwy ym mywyd Cymru, gan sefydlu pencadlys ym Myddfai… mae wastad wedi deall ei le mewn llinach gymhleth o ragflaenwyr, gyda theimlad craff ynghylch cenedligrwydd Cymreig… O bedair cenedl y Deyrnas Unedig, mae’n ymddangos mai Cymru sy’n mwynhau’r frenhiniaeth fwya’. Nid symbol o ymgreinio pobol wedi’u concro yw hynny, ond o’u dyheu am sefydliadau sy’n tynnu pobol ynghyd.”

Ac yng nghornel y ddau fys, Leanne Wood

“Bob degawd, roedd pobol yn cynnal partïon i ddathlu, yn codi eu gwydrau mewn llwncdestun i’w brenhines. Roedden nhw’n canmol ei doethineb a sefydlogrwydd ei theyrnasiad hir, er bod yr economi yn amlach na pheidio yn mynd i dre-din a hwythau’n colli eu swyddi a’u cartrefi. Wedyn daeth wyrion. Un yn chwarae pŵl heb ddillad ac yn gwisgo fel Natsi, gan adleisio teimladau ei hen-hen-ewythr, Edward VIII. Yn eneth, cafodd y frenhines ei ffilmio’n gwneud saliwt Natsïaidd. Sdim ots. Pan ydych chi’n atebol i Dduw a neb arall, fe gewch wneud pethau felly. Wrth i’r frenhines gyrraedd diwedd ei theyrnasiad, bydd pobol yn casglu eto i roi llwncdestun i’w bywyd. Gobeithio y bydd mwy ohonon ni’n myfyrio ar realiti’r bywyd hwnnw yn hytrach na’r ffantasi sy’n cael ei werthu inni.”

Does gan Frank Little fawr o amynedd gydag ymgais Boris Johnson i ddathlu trwy ail-fabwysiadu dulliau mesur Ymerodrol…

“Yn amlwg, mae’r Prif Weinidog yn ein trin fel ffyliaid… Beth nesa? Dod â’r wyrcws yn ôl? Dileu’r deddfau gwrth-gaethwasiaeth? Mynd i ryfel gyda Ffrainc? Crogi pobol am ddwyn torth o fara?” (ffrancsais.blogspot.com)

A does gan John Dixon fawr o feddwl o’i gynigion i newid Côd y Gweinidogion…

“Ar un olwg, dyw’r syniad o drin ‘mân’ droseddau yn wahanol i droseddau ‘mawr’ ddim yn gwbl afresymol; wedi’r cyfan, dyw’r gosb am barcio ar linellau melyn ddim yr un peth â’r gosb am lofruddiaeth… [Ond] mae dyn ym amau o ran Johnson… nad oes yna ddim y gallai unrhyw weinidog cabinet ei wneud a fyddai fyth yn cael ei ystyried yn drosedd ‘fawr’ yn erbyn y côd. Fydd dim y gallai e’i wneud yn fater o ymddiswyddo a fydd disgwyl safonau uwch gan rai is nag e yn gwneud dim ond dangos ei ffaeleddau ei hun.” (borthlas.blogspot.com)