Mae angen ymgyrch i wella’r modd mae siaradwyr Cymraeg yn cyfathrebu gyda dysgwyr yr iaith.

Dyna farn Tiwtor Cymraeg i Oedolion gyda Choleg Cambria yn y gogledd ddwyrain – sy’n credu bod pobol yn rhy brysur i helpu dysgwyr yn iawn.

Roedd Manon Williams o Ruthun yn gweithio ar stondin Dysgu Cymraeg – y corff i ddysgwyr – ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Mawrth. Yn Sir y Fflint a Wrecsam mae Coleg Cambria yn gweithio, a hynny mewn partneriaeth gyda’r corff Popeth Cymraeg yn Sir Ddinbych.